BMC yn Lansio Ymgyrch Ariannu Torfol i Ddiogelu Craig Sirhywi ar gyfer y Gymuned Dringo

Posted by Eben Muse on 24/10/2023

Mae craig Sirhywi, cyrchfan dringo Tywodfaen boblogaidd yn Ne Cymru, am gael ei rhoi ar werth. Gyda dros 5000 bobl wedi eu cofnodi a 79 ddringfeydd, mae wedi bod yn fan arbennig i ddringwyr dros y blynyddoedd. Mae Cyngor Mynydda Prydain (BMC) yn cymryd camau i ddiogelu'r clogwyn eiconig hwn trwy wneud cais i'w brynu ar ran y gymuned ddringo.

Cliciwch yma i ddarllen y fersiwn Saesneg / Click here to read in English 

Mae Ymddiriedolaeth Tir ac Eiddo'r BMC fel arfer yn ystyried prynu creigiau pan fo bygythiad i fynediad. Yn yr achos hwn, yr ofn yw, os yw'r tir yn syrthio i ddwylo unigolion neu endidau nad ydynt yn cyd-fynd â'r gymuned ddringo, gallai arwain at gyfyngiadau mynediad posibl.

Byddai perchnogaeth gan y BMC yn sicrhau bod y tir yn cael ei gofrestru fel tir mynediad agored, gan ei ddiogelu am byth i ddringwyr, a gwarantu ei fod yn cael ei reoli mewn ffordd sydd o fudd i ymwelwyr a byd natur fel ei gilydd. Byddai dringwyr lleol hefyd cael eu gwahodd i chwarae rhan mewn rheoli’r safle, gwella seilwaith, gwella cynefinoedd, a dangos stiwardiaeth gyfrifol.

Amcangyfrifir mai £8000 yw pris y clogwyn, a nod y BMC yw codi'r swm hwn drwy ymgyrch ariannu torfol. Bydd y BMC hefyd yn ceisio cymorth masnachol gan ein partneriaid, ond bydd cyfraniadau unigol a chyllid preifat yn hanfodol i gyrraedd y nod hwn.

Dywedodd Eben Muse, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Cymreig y BMC: “Mae Sirhywi yn lle arbennig, ac mae gennym ddyletswydd i wneud yr hyn a allwn i gadw mynediad iddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – os na wnawn ni, yna mae siawns go iawn y bydd mynediad yn cael ei golli. Mae gennym ni gyfle unigryw yma i sicrhau dyfodol y lle anhygoel yma, a gyda’ch cymorth chi gallwn wneud yn hynny.”

Dywedodd Bob Moulton, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Tir ac Eiddo y BMC: "Mae Ymddiriedolaeth Tir ac Eiddo'r BMC yn falch o gefnogi ymdrechion i ddiogelu a chadw creigiau yng Nghymru a Lloegr. Mae Sirhowy yn ymgeisydd gwych er mwyn ymuno â'n portffolio o glogwyni a reolir gan y BMC, sydd eisoes yn cynnwys Harrison's Rocks, Horseshoe Quarry, Pant Ifan, ac eraill. Hwn fydd y clogwyn cyntaf yr ydym yn berchen arno neu'n ei reoli yn Ne Cymru. Pob lwc i'r ymdrechion cyllido torfol!"

Anogir dringwyr a phobl sy’n frwd dros yr awyr agored i gefnogi’r fenter hon i sicrhau dyfodol Sirhywi am genedlaethau i ddod.

GALWAD I WEITHREDU:

Am fwy o wybodaeth ac i gyfrannu, ewch i'r dudalen ariannu torfol bwrpasol yma.



« Back

Post a comment Print this article

This article has been read 158 times

Post a Comment

Posting as Anonymous Community Standards
3000 characters remaining
Submit
Your comment has been posted below, click here to view it
Comments are currently on | Turn off comments
0

There are currently no comments, why not add your own?

BMC MEMBERSHIP
Join 82,000 BMC members and support British climbing, walking and mountaineering. Membership only £16.97.
Read more »
BMC SHOP
Great range of guidebooks, DVDs, books, calendars and maps.
All with discounts for members.
Read more »
TRAVEL INSURANCE
Get covered with BMC Insurance. Our five policies take you from the beach to Everest.
Read more »