Neges Nadolig y BMC: 80 mlynedd a thu hwnt

Organisation
23 Dec
4 min read

Annwyl Aelod,  Ym 1944, cyflwynodd Geoffrey Winthrop-Young, Llywydd y Clwb Alpaidd, gynnig i greu'r BMC, corff cynrychioliadol i gynrychioli a siarad ar ran holl ddringwyr Prydain. Wrth i ni droi'r gornel ar ein 80ed flwyddyn mae’n bwysig cofio ein hanes a gweledigaeth ein Clybiau a oedd yn aelodau sefydlol wrth i ni edrych i weld beth mae ‘gwell’ yn ei olygu i’r BMC yn 2025. 

Yn fy neiliadaeth fer hyd yn hyn fel eich Prif Swyddog Gweithredol, rydym wedi gorfod wynebu a goresgyn rhai heriau digynsail yn 2024. Y prif beth rydw i wedi'i ddysgu serch hynny yw'r hyn sy'n ein clymu ni oll at ein gilydd, ac i mi, hynny yw ein bod i gyd eisiau profi ein hanturiaethau, a herio ein hunain, boed hynny’n ymwneud â chyrraedd pen clogwyn lleol, cerdded i fyny hoff fryn neu ddringo copa Alpaidd. Mae'r BMC trwy gydol ei hanes wedi dod o hyd i ffordd o oresgyn cyfnodau anodd, ac rydym nawr yn gadael 2024 wrth ddringo llwybr gwell.

Roeddwn i eisiau taflu golau ar rai o fy uchafbwyntiau i o 2024;

  • Lobïo am fwy o fynediad yn nes at adref: Roedd lawnsiad ffilm y BMC Tir Mynediad ym mis Chwefror yn tanlinellu hanfod ein cenhadaeth: ymladd dros fynediad teg i'r awyr agored i bawb. Rydym hefyd wedi cymryd camau breision mewn cytundebau mynediad ar sawl clogwyn megis Carn Gowla ac eraill. Roedd yn ein hatgoffa’n bwerus pam ein bod yn bodoli fel sefydliad.
Rally at Hound Tor | Image: Tom Dauben
  • Adfer llwybrau sydd wedi'u difrodi: Cyflawnwyd saith prosiect Trwsio Ein Mynyddoedd gan Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC, gan helpu i atgyweirio rhai o’n hoff lwybrau megis 2,000m o lwybr troed yn Nghreigiau Haytor. Rydym hefyd wedi helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr trwy’r Prosiect Get Stuck In.
Paul Ratcliffe and Chris Boardman plant sphagnum moss in the Goyt Valley | Image: BMC
  • Ymrwymo i gyrraedd Net Zero erbyn 2040: lansiwyd ein Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Chynaliadwyedd i gyrraedd sero net erbyn 2040. Ni hefyd yw'r sefydliad Mynydda cyntaf i ymuno â Chwaraeon dros Natur y Cenhedloedd Unedig ac i annog pawb i blannu migwyn.
  • Dathlu Dringo Sbort: rydym wedi cael blwyddyn ryfeddol: fe gyflwynasom dros 40 o gystadlaethau o ddigwyddiadau YCS, a Chwpan Cyfandirol Dringo Iâ. Roedd Gemau Paris 2024 yn uchafbwynt, gyda Toby, Erin, Hamish a Molly yn gwthio hi i’r eithaf ac yn y pen draw daeth un o’r eiliadau mwyaf ysbrydoledig pan Safodd Toby Roberts ar y podiwm yn Le Bourget, gyda medal aur o amgylch ei wddf.
Crowds cheer Team GB on at Paris 2024 | Image: IFSC, Lena Drapella, Jan Virt
  • Gwella tegwch ac amrywiaeth: Ym mis Mai, cynhaliwyd ail iterediad Gŵyl ClimbOut ar gyfer ein cymuned LBGTQ+, ac am y tro cyntaf ar gyfer 2024, cynhaliwyd Gŵyl Wanderers of Colour ym mis Gorffennaf – dathliad o bobl o liw yn yr awyr agored. Buom hefyd mewn partneriaeth â’r YHA drwodd i helpu i gyflwyno Gŵyl Gerdded o 50 o Hosteli Ieuenctid o amgylch Cymru a Lloegr.

Gan edrych ymlaen at 2025, rydym yn gyffrous i ddod â phawb at ei gilydd i helpu i lunio dyfodol y BMC wrth i ni ddatblygu strategaeth pum mlynedd newydd. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, fe’ch anogaf i gymryd eiliad i gwblhau ein harolwg a rhannu eich barn ar sut y gallwn wneud y BMC hyd yn oed yn gryfach yn y blynyddoedd i ddod.

Mae eich cefnogaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed eleni gan ein bod wedi anelu i wneud cynydd yn ein holl feysydd gwaith allweddol. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch, boed hynny am wirfoddoli eich amser, mynychu cyfarfodydd ardal neu dim ond am danysgrifio i'n cylchlythyrau - rydym wedi gallu cyflawni cymaint eleni.

Yn olaf, hoffwn ddymuno tymor gwyliau gwych i chi i gyd a gobeithio y gallwch fwynhau peth amser yn dringo’r bryniau, waliau, creigiau neu fynyddoedd uchel gyda theulu a ffrindiau ble bynnag yr ydych. Byddaf yn treulio fy egwyl yn dringo fy hoff gornestau yn Nyffryn Langdale ac o amgylch Brothers Water yn Ardal y Llynnoedd.

Iechyd da, a gobeithiwn am 2025 hapus ac iach.

Cofion cynnes,

Paul Ratcliffe

Prif Swyddog Gweithredol

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES