Diweddariadau mynediad dringo hanfodol ar gyfer tymor nythu adar 

News
08 Gor
3 min read

Dyma Gudull Coch hardd i dynnu eich sylw! Nawr bod y glaw wedi ysgafnu rhywfaint, mae'n amser da i atgoffa pawb ein bod yn rhannu ein creigiau gyda llawer o greaduriaud eraill, yn enwedig gydag ein ffrindiau pluog sy'n hoff o nythu lle rydyn ni'n hoffi dringo. 

Fel arfer, mae tymor nythu adar yn digwydd rhwng mis Mawrth a mis Medi bob blwyddyn gyda llawer o rywogaethau yn cychwyn yn gynharach yn y tymor. Gall safleoedd nythu hefyd symud felly mae’r BMC wrthi'n monitro safleoedd nythu gyda chymorth y gymuned ddringo. Mae amddiffyn ein ffrindiau pluog yn cŵl ond hefyd, dyna yw’r peth moesol i'w wneud!

Dywedodd Eben Muse, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru), "Mae gan Gyngor Mynydda Prydain record gref iawn o reoli rhwydwaith o gyfyngiadau dringo yn genedlaethol fel nad ydym yn cyflawni trosedd amgylcheddol ar ddamwain (mae tarfu ar nyth aderyn yn drosedd) a hefyd i sicrhau ein bod yn gallu mwynhau mynediad cyfrifol i'r lleoedd hyn yn y dyfodol.

"Mae dringwyr sy'n cadw at y cyfyngiadau hyn yn amddiffyn eu hunain rhag cael eu herlyn, a'n mannau naturiol rhag dirywiad pellach - yn anffodus mae un o bob chwech o'n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu o Gymru.

"Gellir gweld newidiadau mynediad oherwydd adar sy'n nythu y tymor hwn yma ar Gronfa Ddata Mynediad Rhanbarthol y BMC (RAD), felly ymgyfarwyddwch eich hun â'r diweddariadau dros dro hyn.

"Trwy weithio gyda’r rhwystradau hyn, rydym wedi ennill yr hawl fel cymuned i'r cyfyngiadau gael eu targedu a'u seilio ar dystiolaeth. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad oedd rhai dringwyr yn ymwybodol o waharddiadau dringo oherwydd adar sy'n nythu.

"Os ydych chi'n gweld aderyn mewn trallod ger dringwyr neu rywun yn dringo ar sector cyfyngedig, byddech chi'n gwneud ffafr i bawb i’w hysbysu'n gwrtais am y cyfyngiad a chyflwyno'r ap RAD defnyddiol iawn iddyn nhw ar eich ffôn.

"Mae dringwyr wedi cael eu herlyn am darfu ar adar yn y gorffennol.

Mae gan wefan UKClimbing.com integreiddiad RAD (llun yn y sylwadau) ac os ydych chi'n lawrlwytho'r ap RAD BMC (ar gael ar y ddwy siop apiau) mae'n gweithio heb gysylltiad we, felly does dim esgus mewn gwirionedd! Mae tywyslyfrau yn mynd yn hen yn gyflym. Rydych chi'n gwirio'r tywydd cyn mynd allan, felly beth ddechrau creu arfer o edrych ar y mynediad i'ch trefn arferol?

"Os ydych chi'n credu bod adar yn nythu mewn safleoedd heb unrhyw gyfyngiadau, anfonwch e-bost at eben.muse@thebmc.co.uk neu Tom Carrick tom.carrick@thebmc.co.uk neu siaradwch â'ch cynrychiolydd mynediad lleol hyfryd."

BMC Travel Insurance

Explore member benefits

Paris 2024

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES