Ymgyrchoedd
Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol
Mae ein hymgyrchoedd yn cael eu cefnogi gan roddion gan aelodau a sefydliadau. Mae'r holl arian a roddir i'r Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth - elusen gofrestredig y BMC - yn mynd tuag at hwyluso prosiectau cadwraeth ac addysg ledled Cymru a Lloegr.
Trwsio Ein Mynyddoedd
Mae ymgyrch Trwsio Ein Mynyddoedd y BMC yn annog pawb sy’n gwerthfawrogi bryniau, mynyddoedd a thirweddau Prydain i roi a diogelu’r llefydd maen nhw’n eu caru. Mae wedi dod yn bell o’n hymgyrch ariannu torfol ‘untro’ gyntaf un yn 2016. Ers hynny rydym wedi codi bron i filiwn o bunnoedd, ac rydym ar fin codi hyd yn oed mwy o arian yn y dyfodol agos.
Y Prosiect Hinsawdd
Mae’r Prosiect Hinsawdd yn gasgliad o ddatrusiadau sy’n seiliedig ar natur a gyflwynwyd i chi gan y BMC, sy’n helpu i ddiogelu ac adfer natur, ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydym yn gweithio gyda Moors For the Future a Searass Ocean Rescue i godi arian ar gyfer eu prosiectau adfer, a byddwn yn rhoi cyfle i aelodau helpu i blannu Sphagnum yn y Peak District a Morwellt ar hyd arfordir Gogledd Cymru.
Parchu’r Gwyllt
Ydych chi'n bwriadu dianc rhag y torfeydd a threulio noson yn y gwyllt? P'un a ydych chi'n gwersylla neu'n fanio dyma rai rheolau euraidd i sicrhau eich bod chi'n parchu'r gwyllt.
Parchu’r Graig
Mae dringo yn yr awyr agored dipyn o brofiad ar greigiau naturiol. Nawr, mae angen eich help ar y lleoedd arbennig hyn i'w hamddiffyn ar gyfer y dyfodol. Cofiwch beidio â gadael unrhyw olion, ystyriwch eich heffaith ar yr amgylchedd a pharchwch bobl eraill.
Hills 2 Oceans
Mae ein hymgyrch Hills 2 Oceans (H2O) yn galw ar bawb i gymryd rhan mewn sesiwn codi sbwriel i helpu i gael gwared â chymaint o sbwriel a phlastig o’n bryniau, mynyddoedd a chreigiau â phosibl fel nad yw’n cyrraedd ein cefnforoedd.
No Moor BBQs
Bob blwyddyn, mae tanau rhostir yn cael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt, da byw a phobl, ac yn aml gallant ddinistrio’r mawn sylfaenol sy’n hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ledled y byd, mae mawndir yn cynnwys mwy na 550 gigatunnell o garbon, dwywaith cymaint o garbon â holl goedwigoedd y byd.
Rydym yn galw ar y llywodraeth i wneud y defnydd o farbeciws tafladwy ar rostir agored yn drosedd gyda chosb llym ynghlwm wrth unrhyw un sy’n torri’r rheol.
Mynediad i Bawb
Mae tri deg chwech o gyrff llywodraethu cenedlaethol blaenllaw a sefydliadau amgylcheddol wedi dod ynghyd i gefnogi maniffesto Awyr Agored i Bawb, sy’n ceisio ehangu mynediad cyfrifol at fwy o dirweddau gwyrdd a glas.
Cyswllt Amgylchedd Cymru
Rydym yn rhan o rwydwaith o sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth sy'n gweithio ledled Cymru i sicrhau amgylchedd Gymreig ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn cefnogi ei haelodau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, ac yn eu helpu i gydweithio i ddatblygu polisi ac arfer amgylcheddol effeithiol.