End of year message from BMC CEO Paul Ratcliffe

Organisation
15 Rhag
4 min read

Dringfa olaf y flwyddyn i mi oedd Curved Ridge ar Buachaille Etive Mòr, gyda Finlay Wild ac aelodau o’r Tywyswyr Mynydd Prydeinig. Fel yr oeddem yn disgyn, myfyriais ynghylch y flwyddyn a pha mor ffodus ydw i gael mwynhau ein tirweddau mynyddig ysblennydd ac i fod yn rhan o’r gymuned ysbrydoledig a chefnogol yma, sef Cyngor Mynydda Prydain.

Mae cymuned wedi bod wrth wraidd y Cyngor Mynydda Prydain (BMC) ers y cychwyn. Wrth i'r flwyddyn ddod i ben, bu i’n rhwydwaith o 244 o glybiau dyfu i gynnwys mwy na 26,483 o aelodau, yr uchaf ers 2017, ac mae ein haelodaeth gyffredinol wedi codi'n gyson dros y pedwar mis diwethaf i gyrraedd 81,134. Diolch i chi am eich cefnogaeth. Golygai’r llais cyfunol hwn ein bod gennym y gallu i sicrhau mynediad, cefnogi cyfranogiad a pherfformiad a diogelu'r lleoedd yr ydym yn anturio ynddynt. Bu Mynediad a Chadwraeth yn ffocws mawr eleni. Ailagorwyd Skeleton Ridge ar Ynys Wyth ar ôl pedair blynedd, fe ddynodwyd yr wyth craig sy'n eiddo i’r BMC yn dir mynediad agored o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW act), ac fe wnaethom wella hygyrchedd Chwarel Horseshoe drwy Ymddiriedolaeth Tir ac Eiddo’r BMC. Ochr yn ochr â'r gwaith ymarferol yma, bum yn arwain y ffordd o ran ymgyrchu dros ddiwygio mynediad ehangach drwy'r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol dros Fynediad at Natur a Hamdden Awyr Agored, yr Adroddiad Outdoors for All a'n hymgyrch Gwersyllwn yn Wyllt.

Fe wnaethon ni barhau i gyflawni gwaith cadwraeth ar lawr gwlad. Gweithiodd gwirfoddolwyr i dynnu 4,282 o eitemau o sbwriel oddi wrth y mynydd yn ystod ein hail Lanhad Mawr yr Wyddfa, fe wnaethom ni gefnogi amddiffyniadau dros adar yn nythu, monitro amgylcheddau alpaidd sensitif, a chyfrannu at brosiectau adfer ucheldir, gan gynnwys atgyweirio llwybrau yn Eryri ac Ardal y Llynnoedd. Ymunodd mwy na 140 o wirfoddolwyr yn y gwaith drwy Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC, gyda’n gwaith hinsawdd yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.

Daeth nifer fawr o aelodau ynghyd drwy ddigwyddiadau, cystadlaethau a chyfleon gwirfoddoli, o’n digwyddiad Basecamp cyntaf a gwyliau rhanbarthol i’r 32 Cyfres Ddringo Ieuenctid, Pencampwriaethau Cenedlaethol, a dychweliad ein Cyfarfodydd Rhyngwladol Gaeaf a Haf. Mae’r rhain yn parhau i fod yn rhan hanfodol o sut rydym yn cysylltu, yn datblygu ac yn dathlu ein cymuned.

Roeddwn i'n ffodus i gael mynychu nifer fawr o'r digwyddiadau hyn yn ystod y flwyddyn, gyda'r BMC yn cefnogi mwy nag 89 o weithgareddau a 48 o deithiau cerdded bryniau dan arweiniad gwirfoddolwyr wrth i ni gyrraedd dros 900,000 o bobl mewn person ac ar-lein. Roedd Gŵyl ClimbOut, digwyddiadau Pencampwriaeth Prydain yn y Depot Mawr newydd yn Wythenshawe ac yn EICA: Ratho yng Nghaeredin, ein gwyliau dringo lleol a'n Rownd Derfynol Fawr Cyfres Ddringo Ieuenctid fwyaf erioed gyda mwy na 500 o ddringwyr ifanc yn rai o’r uchafbwyntiau. Yn 2026, byddwn yn adeiladu ar sail y momentwm yma gyda gŵyl Basecamp yn YHA Castleton a lansiad Gŵyl Gerdded Bryniau newydd y BMC.

Roedd hefyd yn flwyddyn nodedig o ran perfformiad. Roedd teitl Cwpan y Byd Dringo Arwain cyffredinol Erin McNeice yn gamp carreg filltir ac enillodd y wobr Athletwr PLx iddi. Derbyniodd Tom Livingstone ac Ales Cesen y Piolet d’Or am eu esgyniad gyntaf o Grib Gorllewinol Gasherbrum, a chynhaliodd ein Noddwr Syr Chris Bonington ddathliad i nodi 50 mlynedd o ‘Everest the Hard Way’. Croesawon ni 11 o athletwyr i mewn i’r Rhaglen Berfformio, ac fe gefnogwyd mwy na 100 o athletwyr drwy Lwybr Talent Lloegr, a pharhaodd i gryfhau'r llwybr dringo para a Thîm Dringo Iâ a Sgïo Mynydda Prydain Fawr.

Gyda chyllid gan Sport England, rydym wedi parhau i gydweithio â'n partneriaid yn Mountain Training, Cymdeithas Waliau Ddringo Prydain a NICAS. Roedd datblygu Gwobrau Hyfforddi Perfformiad, Safon Genedlaethol a marc rhagoriaeth ar gyfer waliau dringo dan do gyda ffocws ar ddiogelwch a phroffesiynoldeb y uchafbwyntiau, ac fe helpasom i ddarparu rhaglenni datblygu dringo strwythuredig ar gyfer dringwyr ifanc er mwyn iddynt ennill y sgiliau a'r hyder i weld cynnydd yn ddiogel.

Ym mis Ionawr, byddwn yn lansio ein strategaeth Llwybr at Antur 2030 newydd, a ddatblygwyd gydag aelodau ac ar gyfer aelodau. Mae'n dangos sut y bydd y BMC yn parhau i ofalu am ein hamgylchedd a gwella mynediad, cyfranogiad a pherfformiad mewn ffordd gynaliadwy dros y pum mlynedd nesaf, gan sicrhau bod eich aelodaeth yn parhau i gael effaith ystyrlon ar hyd a lled ein hystod eang o weithgareddau.

Y cyfan sydd ar ôl yw diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus ac am fod yn rhan o gymuned y BMC. Mae eich help yn gwneud y gwaith hwn yn bosibl ac rwy'n ddiolchgar am yr amser, y gofal a'r ymrwymiad rydych chi'n eu rhoi i'n gweithgareddau a'r lleoedd rydyn ni'n eu gwerthfawrogi. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn gyda'n gilydd yn 2026.

Dymunaf dymor Nadoligaidd bendigedig i chi a Blwyddyn Newydd iach ac anturus.

Paul Ratcliffe, Prif Swyddog Gweithredol y BMC

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES