Hongian Ffest 2026
Dewch draw i Ŵyl Dringo Hongian! Penwythnos o ddringo traddodiadol, bowldro, cerdded bryniau a gweithdai awyr agored, wedi’u gwreiddio yn niwylliant ac ysbryd y rhan ryfeddol hon o Eryri.
BMC Hongian Ffest a’r Daith – Bethesda 2026
Nôl yn 2015 lansiwyd prosiect dringo ieuenctid Hongian mewn dwy ardal chwarelyddol – Blaenau Ffestiniog a Bethesda. Ers hynny mae’r prosiect wedi tyfu’n ŵyl ddringo ac awyr agored ddwyieithog: BMC Hongian Ffest, wedi’i gwreiddio yn nhirweddau llechi gogledd Cymru.
Eleni mae Hongian yn mynd ar daith.
Yn 2026 bydd yr ŵyl yn teithio i Fethesda, gan ddychwelyd i un o’r llefydd lle dechreuodd y stori. Wedi’i hamgylchynu gan dirweddau llechi Dyffryn Ogwen a diwylliant dringo cryf yn yr ardal, mae’n lle gwych ar gyfer penwythnos o ddringo a bod allan yn y bryniau efo’n gilydd.
BMC Hongian Ffest yw’r unig ŵyl ddringo ac awyr agored ddwyieithog yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â Hongian i Besda.
Beth Sy’n Digwydd
Rydyn ni’n rhoi at ei gilydd penwythnos o ddringo, cerddoriaeth a chwmni da ym Methesda a’r ardal o’i gwmpas. Mae’r rhaglen lawn dal yn cael ei threfnu, ond dyma flas o beth sydd ar y gweill.
• Sesiynau dringo traddodiadol gyda Calum Muskett
• Dringo a boldro ieuenctid gyda , Si Panton ac Osian Parry
• Diwrnodau sgramblo i ieuenctid ac oedolion
• Rhedeg llwybrau gyda Kathryn Roberts a Calum Muskett
• Dringo chwaraeon, bouldro a sesiynau dringo i’r teulu
Bydd hefyd ffilmiau, sgyrsiau gan ddringwyr lleol, stondinau, a set gerddoriaeth acwstig gan Lewis Perrin, gyda cerddoriaeth gyda’r nos gan Elemental Rwts. Mwy o fanylion i ddod wrth i’r rhaglen gael ei chwblhau.
Gan y Gymuned, i Bawb
Mae Hongian Ffest yn ŵyl nid-er-elw sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth gan y British Mountaineering Council (BMC) a phartneriaid lleol.
Mae’r sesiynau’n fforddiadwy ac yn groesawgar, gyda’r nod o gael mwy o bobl allan ar y graig ac yn y mynyddoedd.
Ymunwch â Ni ym Methesda
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â Hongian yn ôl i Besda a dathlu’r diwylliant dringo sydd wedi helpu siapio’r prosiect.
Rydyn ni’n dod adra, Pesda baby.
Os hoffech chi gymryd rhan, helpu rhedeg sesiynau neu wirfoddoli, cysylltwch â ni.
Datganiad Cyfranogiad y BMC:
Trwy archebu lle ar sesiwn yn Hongian Ffest, rydych yn derbyn cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun, yn unol â datganiad y BMC:
“Mae’r BMC yn cydnabod bod dringo, cerdded a mynydda yn weithgareddau sydd â pherygl o anaf personol neu farwolaeth. Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn ymwybodol o’r risgiau hyn, eu derbyn, a bod yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain.”
Dylai cyfranogwyr gydnabod, hyd yn oed pan fo arferion da yn cael eu dilyn, bod risg gynhenid yn parhau yn y gweithgareddau hyn.
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i ddod â sesiwn i ben yn gynnar neu ofyn i rywun adael os ydynt yn rhoi eu hunain neu eraill mewn perygl. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddwyn mewn ffordd aflonyddgar neu wahaniaethol.
Hongian Ffest
Related Content
Rock Climbing Articles
Come along to Hongian Climbing Ffest! A weekend of trad climbing, bouldering, hillwalking and outdoor workshops, rooted in the culture and spirit of this extraordinary corner of Eryri.
Rock Climbing Articles
ClimbOut, the UK’s first queer climbing festival is what happens when outdoor climbing meets queer joy.