Sut i sgrialu crimog Llech Ddu

Hillwalking Destinations
31 Gor
4 min read

Sgrambl Gradd 1 syfrdanol yn Eryri (Eryri) nad yw'r rhan fwyaf o bobl erioed wedi clywed amdani? Mae'n swnio'n rhy dda i fod yn bosib - ond mae Crimog Llech Ddu yn rhagori ar ddisgwyliadau. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod er mwyn profi’r clasur cyfrinachol hwn yn y Carneddau.

Y broblem efo’r mwyafrif o sgramblo Gradd 1 yw bod pawb yn gwybod cystal profiad yr ydynt. Ar Tryfan ar ddydd Sul heulog bydd yn rhaid ymladd eich ffordd drwy blant mewn Crocs er mwyn cyrraedd y copa. Yn aml gall prif grib Crib Goch fod yn llawn prysurdeb, yn enwedig mewn tywydd braf a thros ŵyl banc – ac mae gennych chi well siawns o ennill y loteri na chael Striding Edge i chi’ch hun dros benwythnos.

Mae Llech Ddu, ar y llaw arall, yn glasur modern gydag un bonws ychwanegol: prin fod neb wedi clywed amdano. Ynghudd ar ochr ogleddol anghysbell y Carneddau, mae’n fyd o wahaniaeth oddi wrth diriogaeth fflachlyd, sgramblo adnabyddus y Glyderau a Massif yr Wyddfa. Mae’r llwybr ato ynddo’i hun yn golygu cerdded am awr a hanner i fyny Cwm Llafar; ac erbyn i chi gyrraedd gwaelod y grimog ei hun, mae bron yn sicr mai chi fydd yr unig gopa walltog yn y lle.

“Fe allech chi ddweud mai Crimog Llech Ddu yw gwrththesis y clasuron fel Crib Goch a Thryfan,” meddai’r hyfforddwr dringo lleol, Garry Smith, a ysgrifennodd y tywyslyfr newydd; North Wales Scrambles  (gan Northern Edge Books). “Efallai fod pobl wedi eu troi ymaith gan yr amser agosáu, neu efallai mai’r unig reswm yw nad yw’r llwybr yn adnabyddus iawn.”

Felly beth sy’n golygu mai Crimog Llech Ddu yw’r sgrialu gorau yn Eryri nad ydych chi wedi clywed amdano, fwy na thebyg?

Gwyllt yn y bôn

Yn ôl Garry, mae'n ymwneud â’r lleoliad, lleoliad, lleoliad. “Y teimlad o ardal wyllt, naturiol, sy’n gwneud Llech Ddu mor arbennig,” meddai. “Yn gyffredinol mae ganddo awyrgylch mynyddig anhygoel, a byddwn i’n dweud nad oes unman arall yng Nghymru sy’n rhagori arno.”

Anfantais y pellenigrwydd hwnnw, wrth gwrs, yw bod y clogwyn ymhell iawn o'r man parcio agosaf. Mae'r rhan fwyaf o sgrialwyr yn cychwyn yn Gerlan ger tref Bethesda, gan ddilyn cyfres o lwybrau hawdd a thraciau i fyny Cwm Llafar. Mae Llech Ddu yn dod i'r golwg o waelod y dyffryn: pyramid o graig yn pwyso ar ochr Carnedd Dafydd. Edrychwch allan am y bandiau cwartsit gwyn ar yr ysgwydd uwchben y clogwyn, sy'n nodi dechrau'r sgramblo.

Ar goll ar Lech Ddu?

Efallai ei fod yn scrambl Gradd 1 - ond ar raddfa anhawster mordwyo, fe ddylai Crimog Llech Ddu gael cael gradd llawer uwch.

“Y brif her yma yw llywio,” eglura Garry. “Oherwydd nad yw yn boblogaidd ac nad oes llwybr amlwg iawn i gyrraedd y grib, mae angen lefel dda o allu mordwyo arnoch chi. Mae sicrhau eich bod yn dilyn y llinell gywir wrth geisio cyrraedd y clogwyn yn anodd, yn enwedig pan fod gwelededd yn wael, er unwaith y byddwch wedi cyrraedd y brif grib mae hi’n anodd mynd o’i le.”

I gyrraedd gwaelod y sgramblo, ewch heibio i’r maes clogfeini ar waelod Llech Ddu a dilynwch lwybr igam-ogam i fyny llethrau sgri i’r dde o’r clogwyn. Tua 30 medr cyn cyrraedd Cwm Glas Bach, mae cwm uchel ar glogwyni carpiog gogledd-ddwyrain Carnedd Dafydd; mae ramp glaswelltog yn torri i fyny ac yn ôl i'r chwith. Dilynwch hwn i ddod o hyd i'r bandiau cwarts ar ddechrau'r sgrambl.

Hawdd pawdd

Heb yr her fordwyo, mae Crimog Llech Ddu yn gyflwyniad gwych i sgramblo. Mae’n Radd 1 syml gyda golygfeydd gwych, gafaelion blociog a dinoethiad sy’n weddol sylweddol ond sy’n dal dipyn llai na Chrib Goch.

Mae'r rhan gyntaf yn dilyn cyfres o risiau craig ac yn rhedeg i fyny ysgwydd y clogwyn cyn culhau'n grib greigiog. Gallwch chi ddewis gradd yr anhawster fwy neu lai trwy lynu at gopa'r gefnen neu gamu i'r ochr i'r anawsterau mawr gan ddefnyddio llwybrau dargyfeirio slei i'r chwith neu’r dde.

“Mae’r dinoethiad yn wefreiddiol heb fod yn rhy fygythiol, ac mae’r graig yn gadarn ar y cyfan,” meddai Garry. “Yn wahanol i lawer o heriau sgrialu eraill, mae hefyd yn parhau i fod yn weddol ymarferol mewn tywydd gwlyb. Mae’r cyfuniad o draciau da ar y daith i mewn a’r ffaith ei bod yn gymharol hawdd i’r radd yn ei gwneud yn boblogaidd i’w rhedeg hefyd.”

Rhybuddion tywydd

Efallai y fod Llech Ddu yn eithaf ymarferol mewn tywydd gwlyb, ond fe fyddwch chi dal eisiau talu sylw i’r rhagolygon. Nid dim ond dechrau’r grimog sy’n gallu bod yn hunllef i’w chanfod mewn amodau niwlog – mae disgyn o gopa Carnedd Dafydd hefyd yn her fordwyo. Mae lleoliad anghysbell y graig yn golygu bod y posibilrwydd o fynd ar goll yma yn ddifrifol.

Afraid dweud, wrth gwrs, fod y gaeaf yn y Carneddau yn newid pethau’n llwyr.

“O dan amodau gaeaf daw hwn yn her gadarn gradd un gaeafol o ddifrif,” eglura Garry. “Byddai’n ffwlbri rhoi cynnig arni heb sgiliau gaeaf da – ac wrth gwrs bwyell iâ a chramponau.”

Gyda’r gwanwyn wedi dod, gallai dringo Crimog Llech Ddu fod yn ffordd dda o gychwyn eich tymor sgramblo.

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Winter Lecture Series

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES