10 CAMGYMERIAD MAE CERDDWYR Y GAEAF YN EU GWNEUD A SUT I'W HOSGOI

Mynydda Dysgwch Sgiliau
02 Awst
6 min read

Dyma’ch rhestr o rai o’r camgymeriadau cerdded gaeaf mwyaf cyffredin a sut i’w hosgoi.

Ydych chi ond erioed wedi cerdded mynyddoedd yn yr haf hyd yn hyn? Croeso i'r peth go iawn. Dyma’ch rhestr o rai o’r camgymeriadau cerdded gaeaf mwyaf cyffredin a sut i’w hosgoi.

Pan fydd yr eira'n disgyn, mae'n hwyl yn y gaeaf. Mae rhai o fynyddoedd Prydain yn edrych bradd yn Alpaidd, ac er bod yr heriau'n niferus, mae'r gwobrau hefyd yn cynyddu. Mae eira a rhew yn cynyddu'r tebygolrwydd o gamgymeriadau yn sylweddol a gall camgymeriadau a fyddai'n fân yn yr haf gael canlyniadau difrifol. Dyma rai o'r gwallau mwyaf cyffredin i wylio amdanynt yn ystod y gaeaf...

1. Tywyllgoll

Mae dyddiau byr y gaeaf yn golygu llai hyblygrwydd o ran amseru. Boed hynny trwy gynllunio gwael, gwall mordwyo neu anffawd na ragwelwyd, mae llawer yn cael eu dal allan ac yn gorffen i fyny’n sownd ar y bryn pan fydd hi’n nosi.

Sut i osgoi: Dechreuwch yn gynnar, cynlluniwch eich diwrnod yn iawn a chofiwch ddod â fflachlampau pen gyda chi bob amser, hyd yn oed os ydych chi'n cynllunio diwrnod allan byr - oherwydd dydych chi byth yn gallu bod yn hollol sicr. Gall y datrusiadau fod yn syml, ond byddech chi'n synnu pa mor aml y mae pobl yn eu hesgeuluso neu'n eu hanghofio.

2. Mynd ar goll

Yn yr haf, mae gwall llywio fel arfer yn golygu, ar y gwaethaf, daith gerdded hirach, oerach a mwy blinedig na fwriadwyd. Yn y gaeaf gall fod yn angheuol, oherwydd y risg o ildio i ddinoethiad. Mae garwder ychwanegol tywydd y gaeaf yn gwneud gwallau oherwydd blinder yn fwy tebygol, tra bod dod o hyd i'ch ffordd yng ngwactod dinodwedd gwyngod yn un o'r tasgau llywio mwyaf brawychus - a pheryglus - sy'n bodoli.

Sut i'w osgoi: Mae llawer o ganolfannau a darparwyr addysg awyr agored yn cynnal cyrsiau mordwyo gaeaf.

Nid jôc mo noswylio yn y gaeaf. Sicrhewch fod gennych fflachlampau pen a batris sbâr. Llun: Shutterstock

3. Cysgu’n hwyr

Er ei fod yn dorcalonnus i’r rhai hynny ohonom nad ydyn ni’n cythruddo ‘pobl y bore’, mae gorwedd yn y gaeaf yn gyffredinol yn syniad gwael. Mae dechrau hwyr yn golygu bod llai o gyfle i wallau beidio ag effeithio a phethau, a mwy o siawns o orfod cerdded yn y tywyllwch, a all gyfrannu at ddamweiniau.

Sut i osgoi: Deffrowch yn for! Gosodwch y larwm a rhowch gymaint o amser â phosib i chi'ch hun.

4. Cynllunio gwael

Mae damweiniau yn y gaeaf yn aml yn deillio o baratoadau gwael; mae pethau fel pobl yn dewis her sy’n ormod iddynt, neu beidio â dewis llwybrau dianc gweddus yn aml yn arwain, fel dominos, at lawer o'r gwallau eraill a restrir yma. Mae'r siawns o gamgymeriadau yn fwy, ac mae'r canlyniadau'n fwy difrifol.

Sut i osgoi: Cofiwch y dywediad milwrol Prydeinig ynghylch y 7 P: ‘Proper Planning and Preparation Prevents Piss Poor Performance’. Cofiwch fod pethau'n aml yn cymryd llawer mwy o amser yn y gaeaf. Mae hi’n syniad da iawn i greu cynllun B, C, D ac E, gan ddibynnu ar eich cynnydd ac amodau’r diwrnod.

5. Baglu

Mae’r gaeaf gallu achosi amodau heriol ac amrywiool dan draed – eira dwfn, névé caled, ferglas llithrig – yn aml wedi’u cyfuno mewn ffyrdd anrhagweladwy, gan wneud llithro’n fwy tebygol. Mae anghofio eich bod yn gwisgo cramponau a baglu dros eich pigau eich hun yn gamgymeriad cyffredin arall, yn aml tua diwedd y dydd pan fydd pobl wedi ymlacio, yn sgwrsio ac wedi peidio canolbwyntio.

Sut i osgoi: Mae’n hawdd gadael i’ch meddwl grwydro pan fyddwch wedi blino – peidiwch. Cofiwch y safiad coes lydan ‘John ​​Wayne’ wrth wisgo cramponau.

Bydd yn rhaid cysgu’n hwyr ryw ddiwrnod arall. Codwch yn gynnar a rhowch gymaint o amser â phosibl i chi'ch hun. Llun: Shutterstock

6. Rhoi cramponau ymlaen yn rhy hwyr

Gall stopio i glymu cramponau ymddangos yn waith caled, yn enwedig mewn gwyntoedd llai na sero neu stormydd eira. Ond peidiwch â chael eich temtio i’w ohirio cyn hired â phosibl – mae damweiniau’n aml yn deillio o bobl yn ei gadael yn rhy hwyr.

Sut i osgoi: Cofiwch eiriau Adam Potter, a ddisgynnodd 1,000 troedfedd i lawr ochr Sgurr Choinnich Mor, goroesodd yn groes i bob tebygolrwydd. Yn union cyn cwympo, dywedodd wrth ei gymdeithion: “Mae’n mynd braidd yn rhewllyd nawr, gadewch i ni estyn ein cramponau ymlaen a’n bwyeill iâ allan.”

7. Ymwybyddiaeth am eirlithriadau

Mae risg eirlithriadau yn beth cymhleth. Gall daroganwyr eirlithriadau ragweld lle bydd y meysydd sydd gyda’r mwyaf o berygl, ond fryn gall yr ardaloedd hyn fod yn ddeinamig a chyfnewidiol. Mae hefyd yn bosibl syrthio i faglau ‘heuristig’ (fel dilyn grŵp neu arweinydd yn ddall), neu gael eich twyllo gan lethrau graddol mwyn yr olwg. Gall y rhain i gyd gyfrannu at ddamweiniau ac maent yn gwneud hynny.

Sut i osgoi: Mae gwybodaeth, paratoi ac asesu cyson wrth fod ar y bryniau yn gwbl hanfodol o ran asesu risg eirlithriadau. Darperir rhagolygon eirlithriadau ar gyfer rhai rhannau o'r Alban gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Eirlithriad yr Alban, ond gall eirlithriadau ddigwydd yn unrhyw le (digwyddodd yr eirlithriad mwyaf marwol a gofnodwyd ym Mhrydain, gan ladd wyth o bobl, yn y South Downs.) Mae cyrsiau sgiliau gaeaf yn amhrisiadwy i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eirlithriadau.

GWYLIWCH: SGILIAU GAEAF | EIRLITHRIAAU AC ASESIAD LLWYBR

8. Dryswch tymhorol

Mae natur anwadal tywydd Prydain yn golygu mai anaml y mae’r siwrnai i mewn ac allan o’r gaeaf yn gwbl glir, ac mae llawer yn cael eu dal yn ystod misoedd ymylol yr hydref a’r gwanwyn gan bethau nad oeddent yn barod ar eu cyfer neu nad oeddent yn eu disgwyl.

Sut i osgoi: Gwyliwch am bethau fel tir wedi rhewi’n annisgwyl yn yr hydref, neu ddarnau o eira yn y gwanwyn. Hyd yn oed o fewn tymhorau mae anomaleddau'n gyffredin - swmp o eira ym Mehefin, ac yna Ionawr yn dadmer. Ym Mhrydain mae'n rhaid i ni ddisgwyl yr annisgwyl.

9. Cit ddiffygiol

Bydd caledwch tywydd y gaeaf yn amlygu unrhyw ddiffyg yn eich offer, waeth pa mor fach. Gall anghofio neu hepgor eitemau fod yn gostus iawn hefyd – gall peidio â chael gogls mewn eira caled eich gwneud yn ddall i bob pwrpas, tra gall colli pâr o fenig fod yn drychinebus.

Sut i osgoi: Ydych chi'n ymchwilio i wneud yn siŵr bod eich cit wedi'i ddiweddaru. Paciwch ddarnau sbâr o eitemau colladwy fel menig a hetiau. Dewch ac ystod gynhwysfawr o offer brys.

10. Anghofio mwynhau

Gallai darllen y rhestr hon ymddangos ychydig yn negyddol ac yn frawychus. Ond mae peryglon ychwanegol y gaeaf yn dod law yn llaw â gwobrau ychwanegol: yn aml gall cerdded bryniau yn y misoedd oerach fod yn ysblennydd, yn werth chweil ac yn fwy cofiadwy nac yn yr haf. Arhoswch yn ddiogel, gan adnabod eich tefynau, a byddwch yn barod - ond cofiwch, ar ddiwedd y dydd, i'w fwynhau.

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES