Cyfyngiadau adar: allwch chi drringo yn fan hyn?

Peidiwch â styrbio plu drwy anwybyddu cyfyngiadau dringo y gwanwyn hwn

Os ydych chi'n mynd allan at y clogwyni, peidiwch ag anghofio y gallai fod adar yn nythu ar rai dringfeydd. Bydd gan rai creigiau gyfyngiadau dringo ar rai ardaloedd neu ddringfeydd. Gallai torri’r cyfyngiadau hyn ddifetha bridio’r adar, peryglu’r hawl i ddringo’r safle yn y dyfodol ac arwain at karma dringo negyddol. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth yw cyfyngiadau dringo?

Ar ran dringwyr, mae'r BMC yn trafod cyfyngiadau ar adar prin sy'n nythu ar glogwyni ledled Cymru a Lloegr. Mae'r trafodaethau hyn yn digwydd gyda thirfeddianwyr a chyrff cadwraeth a, lle bo angen, gallent arwain at gyfyngiadau ar ddringo, gan effeithio ar glogwyn cyfan neu ran ohono. Mae’r cyfyngiadau bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth o adar yn nythu a defnyddir yr opsiwn lleiaf cyfyngol bob amser – dim ond mor helaeth ag sydd ei angen i roi’r lle sydd ei angen ar yr adar.

Pa adar sy'n cael eu gwarchod?

Mae gan bob aderyn sy'n nythu'n mewn ardaloedd gwyllt lefel o amddiffyniad o dan y gyfraith, ond mae amddiffyniad arbennig i rywogaethau arbennig o brin - a elwir yn rhywogaeth "Atodlen 1". Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn gwneud dinistrio nythod neu wyau unrhyw aderyn sy’n nythu’n wyllt yn drosedd, ac, yn ogystal, ni ellir tarfu ar rywogaethau prin Atodlen 1 yn y nyth. Bob blwyddyn, mae'r BMC yn cytuno ar gyfyngiadau dringo ar gyfer rhywogaethau Atodlen 1 neu rai rhywogaethau eraill sy'n brin yn lleol. Y rhai mwyaf cyffredin yw: hebogiaid, cigfrain, mwyalchen y mynydd, brain coesgoch a rhywogaethau carfilod – fel llurs a gwylogod.

Sut mae adnabod yr adar yma? Gwyliwch ein ffilm ymlaen Teledu BMC:

Sut mae cael gwybodaeth am gyfyngiadau?

I gael y wybodaeth fwyaf cywir ar draws Cymru a Lloegr, gwiriwch y Gronfa Ddata Mynediad Rhanbarthol BMC (RAD)  neu lawrlwythwch ein Ap RAD ar gyfer ffonau clyfar. Mae tywyslyfrau’n cyhoeddi manylion cyfyngiadau nythu ond peidiwch a dibynnu arnynt – gallai’r wybodaeth fod wedi dyddio. Gallai gwirio RAD cyn mynd allan arbed taith wastraffus i chi neu hyd yn oed agor mwy o opsiynau posib.

A oes cyfyngiadau ar bob aderyn sy'n nythu?

Dim ond cyfyngiadau ar rywogaethau prin y mae'r BMC yn eu cytuno felly efallai y bydd adar nythu eraill ar glogwyni heb unrhyw gyfyngiadau. Ar y llaw arall, heb os, bydd rhywogaethau prin yn nythu ar rai creigiau mewn mannau anghysbell nad ydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd ac felly nad oes cyfyngiadau ar waith. Os ydych chi'n gweld aderyn yn galw (yn gwichian yn wallgof a chynhyrfus ac yn hedfan o'ch cwmpas) wrth ddynesu at glogwyn neu ar lwybr, ewch yn ôl i ffwrdd cyn gynted â phosibl a rhowch wybod i'r BMC.

WATCH: Don't ruffle feathers - climbing during bird nesting season

CYFYNGIADAU ADAR - Cwestiynnau Cyffredin: Dringwyr

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES