PUM O'R DROEON NOFIO GWYLLT GORAU YN ERYRI

Hillwalking Destinations
09 Awst
5 min read

Dategla Sarah Stirling, sydd yn angerddol dros ddŵr oer, rai o'r droeon byr gorau yng Ngogledd Cymru sy'n mynd heibio man trochi ar y daith. Anghofiwch eich gofidion a darganfyddwch y manteision iechyd meddwl a chorfforol niferus sydd i'w cael ynllynnoedd oer Eryri!

Dyma ffaith: mae mynyddoedd Eryri yn baradwys ar gyfer cerddwyr bryniau. Ond a oeddech chi'n gwybod bod y dirwedd arw hon hefyd yn gorlifo ag afonydd a llynnoedd clir grisial, gan ei gwneud yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer nofio gwyllt hefyd?

Dategla Sarah Stirling, sydd yn angerddol dros ddŵr oer, rai o'r droeon byr gorau yng Ngogledd Cymru sy'n mynd heibio man trochi ar y daith. Anghofiwch eich gofidion a darganfyddwch y manteision iechyd meddwl a chorfforol niferus sydd i'w cael ynllynnoedd oer Eryri!

Diogelwch yn gyntaf

Os nad ydych chi wedi arfer nofio mewn dŵr oer, mae rhai awgrymiadau diogelwch i fod yn ymwybodol ohonynt - hyd yn oed mewn tywydd cynnes. Mae'n well cerdded yn hytrach na neidio i mewn, er mwyn osgoi dychryn eich corff. Arhoswch i mewn am gyfnod byr i ddechrau ac adeiladu eich goddefgarwch i ddŵr oer yn raddol dros gyfres o sesiynau - a pheidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun.

Am ragor o gyngor diogelwch, gweler y Gymdeithas Nofio Awyr Agored gwefan a'r cod Nofio'n Ddiogel.

Fyddech chi'n mentro i Llyn Idwal?

1. Potiau Coginio'r Diafol

Mae Cwm Idwal, sy’n bowlen uchel o graig o amgylch llyn, yn un o olygfeydd mwyaf dramatig, cerdyn post Eryri. Ar ddyddiau llonydd mae Llyn Idwal yn pefrio fel petai’r iâ a gerfiodd y dirwedd hon newydd gilio. Y tu ôl i'r llyn hwn mae hollt du yn debyg i simnai yn y clogwyni; pan fydd cymylau'n ymgasglu mae'n edrych fel bod y simnai hon yn ysmygu, a dyna'r rheswm am y llysenw ‘Cegin y Diafol’, neu ‘Twll Du’ yn y Gymraeg. Felly mae Llyn Idwal yn un o'i botiau coginio, ac mae dau o rai llai i'w darganfod. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gofyn i nofwyr osgoi nofio yn Llyn Idwal ei hun am resymau cadwraeth ond mae digon o opsiynau eraill. Wrth esgyn y llwybr i'r chwith o'r simnai ewch i Lyn y Cwn. O'r fan hon gallwch gerdded i fyny a thros y Glyderau a disgyn i Lyn Bochlwyd, sydd wedi’i leoli ar gwm uwchben Llyn Idwal, gan gynnig golygfeydd anhygoel dros y mynyddoedd a’r dyffryn. Dilynwch yr afon i lawr yr allt at y maes parcio.

2. Y Materhorn Cymreig dyfrllyd

Mae Cnicht yn sefyll allan fel Toblerone hyfryd ymhlith meringuau, a dyna darddiad ei lysenw tafod-yn-y-boch, ond ei siâp pigfain yw'r unig debygrwydd i'r Matterhorn. Mae'r Cnicht yn fryn bach sy'n codi o’r gors, mewn lle ananghofiedig gyda llynnoedd hudolus ym mhobman. Ewch at ben deheuol ei grib: o'r fan hon, mae golygfeydd ar o dir gwyllt yr holl ffordd ii Fôr Iwerddon. Wrth ymlwybro heibio’r copa gweler glannau glaswelltog Llyn yr Adar, trochfa gyda golygfeydd o’r mynyddoedd sydd wedi ei guddio yng nghol Cnicht. Oddi yma, disgynwch i Lyn Llagi. Mae’n atmosfferig iawn, wedi'i leoli mewn cwm gwyllt gyda rhaeadrau'n arllwys i lawr y clogwyni y tu ôl iddo. Mae ymdeimlad fod dreigiau am esgyn i’r awyr o’r corsydd a’r bryniau.

GWYLIWCH: LLE DA I FOD | NOFIO GWYLLT AC IECHYD MEDDWL

3. Nofio i lawr yr Wyddfa

Mae golygfa llygad aderyn o’r Wyddfa yn datgelu ei fod yn siâp seren: mae wyth llwybr yn sgrialu i fyny ei gribau ac yn crwydro i fyny ei dyffrynnoedd. Mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn cadw at y llwybrau dwyreiniol enwog - Crib Goch, Llwybrau'r Mwynwyr a Phen y Gwryd - sy'n gadael y lleill yn dawelach o lawer. Rwy'n argymell archwilio agwedd ddeheuol yr Wyddfa. Cychwynnwch drwy esgyn yr Wyddfa ar hyd copa'r ysgwydd, Yr Aran; gall dod o hyd i lwybr fod yn anodd ond byddwch yn archwilio rhan wych o’r mynydd sydd wedi’i hanghofio. Yna disgyn Llwybr Watcyn ar hyd y ‘Pyllau Watcyn’. Mae hon yn gyfres hollol syfrdanol o raeadrau gyda phyllau clir grisial a digon o neidiau a llithriadau creigiau rhyngddynt.

Pyllau Watcyn. Llun: Rob Partridge

4. Nofio mewn tirweddau anghofiedig

Mae Cwm Pennant yn gwm hyfryd wedi ei sy'n frith o hanes diwydiant a llechi hardd, a'i uchafbwynt yw’r llyn cudd sydd wedi'i amgylchynu gan olygfeydd mynyddig. I gyrraedd yno, gadewch y ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon (A487) yn Nolbenmaen a gyrrwch i ddiwedd y ffordd (mae ffi barcio fechan yn daladwy yn y blwch gonestrwydd). Dilynwch y llwybr ag arwyddbyst i fyny drwy’r holl weddillion llechi i gyrraedd y llyn, sydd wedi’i guddio o dan ochr mynydd creigiog ac sy’n dod i’r golwg ar y funud olaf. Anaml y dringwyd y dringfeydd gradd E hwyliog sydd wedi'u cuddio yno. Gallwch ei wneud yn gylchdaith trwy ddringo Moel yr Ogof a disgyn i'r de i Fwlch Meillionen.

Ewch am dro ar hyd glannau bywiog Llyn Padarn, sy’n hawdd ei gyrraedd o Llanberis

5. Y pwll nofio lleol

Tra'ch bod chi yn ardal Llanberis, mae'r pwll nofio lleol, Llyn Padarn, wir werth mynd am drochiad. Un o'r llefydd gorau i fynd i mewn yw'r pontynau gyferbyn â ffatri DMM, lle mae maes parcio. O'r fan hon gallwch nofio i'r chwith o amgylch ynys fechan: bydd dilyn y lan yn eich harwain i mewn i’r 'lagynau', ardal fas y tu ôl i'r ynys sy'n boblogaidd gyda theuluoedd i fwynhau sesiynau nofio a barbeciw ar benwythnosau poeth yr haf. Mae angen nofio trwy sianel fas i fynd o gwmpas i gefn yr ynys. Cynheswch ‘nol i fyny wedyn trwy gerdded o amgylch y llyn, gan fwynhau golygfeydd sy'n amrywiol dros y dŵr a'r mynyddoedd.

WATCH: To Feel | Cold Water Swimming

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES