SUT I SGRIALU: CRIB GOCH

Hillwalking Destinations
05 Chw
5 min read

Mae’r sgrambl Gradd 1 wefreiddiol hon yn Eryri yn un o gribau mwyaf poblogaidd Cymru – felly beth sydd ei angen arnoch er mwyn taclo Crib Goch?

Gofynnwch i unrhyw un sy’n cerdded bryniau i enwi ambell i sgrambl enwog, a heb amheuaeth, bydd Crib Goch yn cael ei grybwyll yn syth. Nid yn unig yw’r gefnen bigog hon yn cynnig y ffordd mwyaf gwyllt a mwyaf cyffrous i fyny at gopa uchaf Cymru, mae hefyd yn sgorio deg allan o ddeg o ran golygfeydd, dinoaethiad a mawredd. Yn ogystal a hynny, gyda’r anhawster technegol isel (mae'n Radd 1, y sgôr isaf ar y raddfa sgramblo) mae gennych rysáit ar gyfer un o'r diwrnodau mynydd gorau yn y wlad. Dyma ein canllaw at lwyddiant ar un o brofiadau mwyaf arbennig Eryri.

Cyn Dechrau

Mae enwogrwydd Crib Goch yn golygu bod llawer o bobl yn ei ddewis fel eu sgrambl go iawn cyntaf - ond mae Carlo Forte, prif hyfforddwr Plas y Brenin, yn argymell dechrau ar ychydig o lwybrau llai heriol yn gyntaf.

“Mae Crib Goch yn aml yn cael ei danamcangyfrif,” meddai. “Nid yw dod o hyd i’r llwybr yn syml ac mae’r dinoethiad yn sylweddol. Byddwn yn awgrymu cael rhywfaint o brofiad ar ddiwrnodau haws fel Striding Edge neu Grib y Gribin cyn rhoi cynnig y Grib Goch. Gallai hyd yn oed Sharp Edge ar Blencathra fod yn opsiwn cyntaf gwell - mae’r un radd â Chrib Goch, ond mae’n fyrrach ac yn fwy syml o ran llywio.”

Os ydych chi newydd ddechrau sgramblo yna mae'n bwysig cofio nad yw pob sgrambl sydd wedi'u graddio'n debyg yn gyfartal. Efallai fod Crib Goch yn dechnegol hawdd yn yr amodau cywir, ond mae’r dinoethiad arswydus a’r risg o wyro oddi ar y llwybr yn ei wneud yn fwy gwefreiddiol ac yn fwy peryglus na llwybrau eraill o’r un radd. Oherwydd hyn, mae'n hanfodol gwneud eich ymgais gyntaf mewn amodau addas. Gall gwyntoedd cryfion ac amodau llithrig dan draed ychwanegu gradd yn hawdd at yr her.

WATCH: How to scramble Crib Goch

I ble aeth y llwybr?

Mae Crib Goch wedi baglu digon o gerddwyr yn y gorffennol trwy eu hudo i ymdeimlad ffug o ddiogelwch.

“Unwaith y byddwch chi’n ymadael trac Pen Y Gwryd mae yna lwybr amlwg sy’n mynd â chi at waelod y sgrablo,” eglura Carlo. “Mae’n hawdd crwydro gan feddwl ‘mae hyn i gyd yn braf iawn’ a pheidio â sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sgrambl nes eich bod chi arno.”

Mae'r sgramblo yn dechrau wrth ddringo'n gyffrous i fyny'r slabiau blociog sy'n ar hyd y grib. Mae gafaelion yn niferus ac mae’r dinaethiad yn ganolig - yr anhawster gwirioneddol ar hyn o bryd yw dod o hyd i'r llwybr. Bydd arweinlyfr yn eich helpu i nodi'r prif nodweddion, ond bydd angen i chi dalu sylw manwl i'r llinell o hyd.

“Un o’r sgiliau sydd nad ydynt yn cael eu pwysleisio ddigon wrth sgramblo yw edrych o’ch blaen,” meddai Carlo. “Wrth i chi agosáu at y sgramblo o bellter, dechreuwch chwilio am eich llwybr a gwnewch nodyn meddwl o nodweddion allweddol i anelu atynt fel clogfeini mawr, ardaloedd teras gwastad a nodweddion craig anarferol. Weithiau dim ond o bell yn ôl y gellir adnabod y rhain - unwaith y byddwch yn agos, bydd yr olygfa i'r brig yn cael ei rwystro.

"Mae llawer o bobl yn defnyddio arweinlyfr i'w helpu, sy'n syniad da, ond byddwn hefyd yn argymell dod a map. Bydd map yn dangos digon o fanylion, yn enwedig os edrychwch o dan y marciau craig a chlogwyn ar y llinellau cyfuchlin.

Uchelfannau mynyddig

Mae'r anawsterau wrth ganfod eich ffordd yn lleihau'n sylweddol ar ôl i chi gyrraedd crib y gefnen ei hun, ond erbyn y pwynt yma, mae'r dinoethiad yn dechrau cynyddu. Mae’r disgynfeydd ysgubol anhygoel ar ddwy ochr yn cynnig rhai o olygfeydd gorau Eryri - ond maen nhw’n anathema i ddioddefwyr fertigo. Mewn mannau mae'r gefnen yn ddigon cul i’w phontio'n hawdd ac yn yr ardaloedd hyn mae'n dueddol o fod yn fwyaf diogel i gadw at y brig neu i ddisgyn ychydig i'r ochr chwith wrth i chi barhau i gyfeiriad yr Wyddfa. Mae rhai yn tueddu i rewi drwy ofn ar y Grib Goch, yn enwedig mewn amodau garw.

“Mae’r tywydd wir yn gallu chwarae rhan fawr,” nododd Carlo. “Mae hwn yn ddringfa sy’n cael ei theithio’n aml ac mae’r graig mewn mannau yn lithrig, felly mewn amodau gwlyb neu hyd yn oed llaith gall fynd yn beryglus o sgleiniog. Os yw'n wyntog yna bydd y gefnen yn teimlo hyd yn oed yn fwy dinoethus. A chofiwch nad oes llwybr i ddianc nes cyrraedd Bwlch Coch.”

Mewn eira mae Crib Goch yn ddringfa gaeaf Gradd 1 sy'n gofyn am sgiliau crampon a bwyell iâ, felly yn y gaeaf mae'n well ei gadael hi ar gyfer rhai sydd â llawer o brofiad.

Pedol Lwcus

Os yw llwybr Crib Goch wedi’ch gadael chi’n llawn ofn ac yn awyddus am wellhad gyda brecwast blasus yn Pete’s Eats, yna mae disgyniad serth, glaswelltog o Fwlch Coch sy’n ymuno gyda Llwybr Pen y Gwryd. Y dewis llawer hirach a mwy cyffrous yw i barhau ar hyd ail ran y gefnen - Crib y Ddysgl - a chyrraedd copa'r Wyddfa cyn disgyn ar hyd Lliwedd i gwblhau Pedol yr Wyddfa yn llawn. Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl gymryd rhwng 6 a 10 awr i gwblhau’r daith, gan ddibynnu ar eich cyflymder sgramblo a’ch lefelau ffitrwydd, a byddwch yn ymwybodol nad Crib Goch yw’r unig her y bydd y diwrnod mynyddig godidog hwn yn ei chyflwyno i chi.

“Mae Crib Goch yn aml yn cael ei ddisgrifio fel craidd y Bedol, ond mae’r daith gyfan yn llawn cyffro,” meddai Carlo. “Mae gan Grib y Ddysgl lwybr haws sy’n osgoi’r grib, ond os ydych chi’n dewis cadw at y grib yna mae’r un mor heriol â Chrib Goch. Mae'n werth nodi hefyd y byddai dilyn y llwybr haws yn dal i fod angen sgiliau map da er mwyn osgoi mynd i drafferthion gan fod y llwybr hwn yn croesi rhywfaint o dir serth. Mae mwy o sgrialu ar ochr arall y Bedol, a dylech fod yn ymwybodol gall fod yn anodd dod o hyd i lwybrau wrth ddod oddi ar y mynydd hefyd.”

Byddwch yn wyliadwrus wrth ddisgyn o gopa'r Wyddfa i Fwlch Ciliau. Mae’n hawdd dilyn llwybr uniongyrchol o’r copa dros ben Clogwyn y Garnedd, ond mae hyn yn eich denu ymlaen at lethr sgri peryglus, all weithiau fod yn farwol. Yn hytrach, anelwch i lawr i’r de-orllewin am ychydig ac ymuno gyda rhan uchaf Llwybr Watkin i fynd i lawr i Fwlch Ciliau, ac yna ewch yn syth ymlaen at Lliwedd.

Gyda’i naws epig a’i ddinoethiad anferthol, mae Pedol yr Wyddfa yn sbringfwrdd perffaith ar gyfer sgramblo crib mwy dyrys a mwy parhaus fel Aonach Eagach.

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES