Ble alla i ddringo?

Rock Destinations
04 Awst
3 min read

Mae gan ddringwyr gyfrifoldeb i ddeall materion mynediad a chadwraeth perthnasol sy'n gysylltiedig â'r mannau rydyn ni'n dringo ynddynt. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i fwynhau'r ardaloedd hyn yn gynaliadwy.

Mae dringwyr Prydain wedi’u bendithio â dewis o gannoedd o glogwyni, sy’n amrywio o leoliadau sbort neu un pitsh, i lwybrau traddodiadol sawl pitsh mewn ardaloedd mynyddig anghysbell.

Wrth i rai o'r rhain ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae gan ddringwyr hefyd fwy o gyfrifoldeb i ddeall  materion mynediad a chadwraeth perthnasol fel y gallwn barhau i fwynhau'r ardaloedd hyn yn gynaliadwy.

Mae pob clogwyn yn wahanol a gall cytundebau mynediad newid heb rybudd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio cyfyngiadau ar yr ardal yr hoffech ymweld â hi, a'r lle gorau i wneud hynny yw drwy Gronfa ddata mynediad rhanbarthol y BMC.

Clogwyni ar Dir Mynediad
Yn y gorffennol mae dringwyr yn aml wedi cael eu gorfodi i dresmasu er mwyn cael mynediad at glogwyni. Ond ers ei ffurfio yn 1944 mae'r BMC wedi gweithio gyda thirfeddianwyr a sefydliadau cefn gwlad i sicrhau bod dringwyr yn cael mynediad i glogwyni heb beryglu rheolwyr tir na defnyddwyr eraill.

Roedd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) yn fuddugoliaeth fawr i’r BMC a’n haelodau, gan ddiogelu mynediad i tua 865,000 hectar o fynydd-dir, rhos, gweundir a thwyni (a elwir yn ‘Dir Mynediad’) y gall y cyhoedd gerdded arno a dringo heb orfod aros ar lwybrau.

Heddiw mae llawer o'n creigiau mwyaf poblogaidd yn gorwedd o fewn ardaloedd o'r fath. Fodd bynnag, gellir gosod gwaharddiadau dros dro o hyd, gan gynnwys ar gyfer cadwraeth a diogelwch y cyhoedd - mae'r achosion mwyaf cyffredin dros gyfyngiadau yn cynnwys presenoldeb adar sy'n nythu, fflora neu ffawna prin, neu risg tân uchel.

Clogwyni nad ydynt ar Dir Mynediad
Mae yna hefyd lawer o ardaloedd dringo bendigedig – yn enwedig ar hyd ardaloedd arfordirol ac mewn hen chwareli – nad oes gan ddringwyr hawl mynediad cyfreithiol iddynt er ei bod yn bosibl bod dringo wedi digwydd yno yn y gorffennol.

Gall tirfeddianwyr gyfyngu ar fynediad i'r creigiau hyn ac weithiau maent yn gwneud hynny. Yn ogystal â'r rhesymau a restrir uchod, mae'r achosion mwyaf cyffredin am hyn yn cynnwys parcio anystyriol gan ddringwyr, sŵn, difrod i'r dirwedd neu dda byw, a chŵn.

Mewn sefyllfaoedd o'r fath mae'r BMC yn gweithio'n galed ar ran dringwyr i ddod i gytundeb gyda'r tirfeddiannwr, ac mewn rhai achosion rydym hyd yn oed wedi prynu'r safle.

Ond gofynnwn i ddringwyr helpu i atal problemau o’r fath rhag codi yn y lle cyntaf drwy fod yn ystyriol, parchu arwyddion, cadw cŵn dan reolaeth, gwirio’r mannau parcio a ffefrir a dringfeydd ar y gronfa ddata mynediad rhanbarthol, a deall ac ufuddhau’r Cod Cefn Gwlad.

Cymerwch ran
Trwy ddod yn a aelod o'r BMC rydych yn cefnogi ein gwaith Mynediad a Chadwraeth yn awtomatig. Mae ffyrdd gwych eraill o gymryd rhan yn cynnwys dod yn wirfoddolwr mynediad, neu ymuno â gwaith glanhau clogwyni yn lleol.

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Winter Lecture Series

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES