Amddiffyn Llwybr Mynydd Cwmparc: Mae'r BMC yn cefnogi'r frwydr gymunedol dros fynediad cyhoeddus

Mynediad Newyddion
19 Chw
3 min read

Mae Cyngor Mynydda Prydain (CMP) yn cefnogi cymuned Cwm-parc, Treorci, sydd wedi darganfod fod eu mynediad wedi’i rwystro ar lwybr hanfodol sy’n cysylltu’r pentref â’u llwybrau coetir a mynydd. 

Ers cenedlaethau, mae’r llwybr hwn wedi cysylltu’r pentref â’r coedlannau a’r llwybrau mynyddig o’i amgylch, gan wasanaethu fel llwybr hollbwysig ar gyfer hamddena, lles meddyliol a theithio llesol. Nawr, mae deiseb ar y gweill i adfer mynediad cyhoeddus a diogelu’r trac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cafodd y gymuned sioc pan godwyd gatiau mawr i rwystro'r llwybr, er gwaethaf ei ddefnydd hanesyddol. I ddechrau, fe’i reportiwyd gan y trigolion a chafwyd gwared ar y rhwystrau, dim ond i'r tirfeddiannwr eu hailosod - y tro hwn gyda chamerâu teledu cylch cyfyng a gwarchodwyr diogelwch wedi'u llogi, wedi'u cynllunio'n glir i ddychryn y rhai sy'n ceisio defnyddio'r llwybr hwn. Mae'r llwybr amgen yn gorfodi pobl leol i wyro'n hir ar ffyrdd traffig uchel, gan wneud mynediad i'r llwybrau yn anymarferol i lawer.

Mae'r BMC yn llwyr gefnogi'r ddeiseb i gael y llwybr wedi'i gydnabod yn gyfreithiol fel hawl tramwy cyhoeddus. Byddai dynodiad swyddogol yn diogelu mynediad yn y tymor hir ac yn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto. Mewn cydweithrediad ag ymgyrchwyr lleol, rydym yn annog Cyngor Rhondda Cynon Taf i roi blaenoriaeth i gydnabod y llwybr hirsefydlog hwn.

Yn anffodus, nid yw'r achos hwn yn unigryw. Ledled Cymru, mae llwybrau mynediad cyhoeddus yn cael eu colli oherwydd oedi biwrocrataidd a thanariannu. Hyd yn oed pan fo tystiolaeth aruthrol yn cefnogi hawl tramwy hanesyddol, gall y broses gyfreithiol i’w chofrestru gymryd blynyddoedd – weithiau ddegawdau – oherwydd ôl-groniadau cynghorau.

Ers tro byd mae Llywodraeth Cymru wedi addo dileu’r terfyn amser ar gyfer cofrestru hawliau tramwy hanesyddol yn 2026, gan sicrhau nad yw llwybrau hanfodol fel yr un hwn yn cael eu dileu’n barhaol. Nid ydynt wedi achub ar y cyfle i wneud hynny, gan adael cymunedau mewn perygl o golli hawliau tramwy hanesyddol di-ri am byth.

Bydd y BMC yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn mynnu eu bod yn dilyn ymlaen â'u hymrwymiad i ddiwygio mynediad. Mae cyllid priodol yn hanfodol i ddiogelu ac ehangu mynediad i fyd natur ledled Cymru. Mae angen gweithredu ar unwaith i gael gwared ar y terfyn amser 2026 sydd ar ddod a sicrhau bod hawliau tramwy hanesyddol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Eben Muse, Swyddog Polisi Cymru y BMC:

“Wrth reswm, pan fydd tirfeddiannwr yn penderfynu rhwystro unig fynediad pentref i’w mynydd a’u coetir, bydd y BMC yn gefnogol i'r gymuned honno.

“Mae’r ffaith bod tirfeddiannwr yn gallu cael gwared ar lwybr hirsefydlog hollbwysig, hawl dramwy hanesyddol annwyl, ar fympwy, ac efallai y bydd yn rhaid i’r gymuned aros am fisoedd neu flynyddoedd am eu honiadau o ddefnydd cenhedlaeth, sydd â thystiolaeth dda, yn arwydd trist o gyflwr mynediad yng Nghymru heddiw. Mae angen diwygio, ac mae arnom angen cyllid priodol i swyddogion mynediad brosesu’r hawliadau hyn yn gyflymach.

“Mae hon yn broblem sy’n cael ei hamlygu gan Gwmparc, ond mae hefyd yn mynd y tu hwnt i Gwmparc: mae tua 50% o’n llwybrau yng Nghymru yn anodd eu defnyddio neu wedi’u blocio, ac er bod llawer o ardaloedd fel Cwm-parc wedi’u hamgylchynu gan fannau gwyrdd, mewn gwirionedd mae’n amhosibl eu cyrraedd mewn llawer o achosion oherwydd llwybrau sydd wedi’u blocio neu rwydwaith o dir mynediad sydd wedi torri ac na ellir ei ddefnyddio.

"Mae Llywodraeth Cymru yn atebol am gyflwr truenus mynediad yng Nghymru, ac mae angen iddi ddechrau cyflawni gwelliant at les pawb."

Galwn ar ein cymuned i arwyddo’r ddeiseb, i gefnogi trigolion Cwmparc, a sefyll dros yr hawl i gael mynediad i’n mannau gwyrdd. 

BMC Travel Insurance

Join the BMC

Cotswold Outdoor Discount

Related Content

COOKIES

We use cookies to analyse web traffic, and to improve the user experience. For these reasons, we may share your site usage data with our analytics partners. You can choose to accept all cookies, or select separate preferences for each of the third-party partners we use.

SET COOKIES PREFERENCES